Mae DigitalDadaDigidol | yn dathlu dylanwad mudiad celf DADA ar artistiaid heddiw. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn caru’r absẃrd. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn archwilio pedair agwedd o arfer DADA: Barddoniaeth “Cut-Up” Creu Mygydau Collage/Cyfosodiad Ffotograffiaeth |
Mae DigitalDadaDigidol | yn cyflwyno artistiaid cyfoes sy’n gweithio o fewn y cyfryngau hyn. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn cydnabod bod yr arfer gan artistiaid DADA o wneud eilun o ddiwylliannau Affrica yn anghywir. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn cydnabod bod menywod DADA wedi’u heithrio o hanesion. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn ymateb i hyn trwy anelu i fod mor amrywiol â phosib wrth gyflwyno ein hartistiaid cynwysedig a’r rhai a gomisiynwyd. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn gwahodd pawb i ymgymryd yng nghread celf. Darllenwch am y technegau. Gwnewch eich gwaith eich hun. Cyflwynwch nhw i’w cynnwys ar y wefan. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn gydweithrediad rhwng sefydliadau Cymraeg newCELF a Cardiff MADE. |
Mae DigitalDadaDigidol | yn ffordd i greu celf mewn cyfnod anodd. |
Ynglŷn â Dada
Dada yw: 1916
Roedd dau artist o’r Almaen a gymerodd lloches o’r rhyfel byd cyntaf yn y Swistir yn fflicio trwy eiriadur Ffrengig i Almaeneg un noson, yn chwilio am enw a oedd yn gweddu mudiad celf. Wnaethon nhw fwynhau geiriau doniol, babïaidd yn enwedig – rhai nad oedd agenda uniongyrchol ynghlwm wrthynt, y rhai a oedd ar gyrion nonsens. Daethant ar draws Dada. Yma,
daethant o hyd i’r Rwmanaidd am “Ie, Ie!”, y Ffrengig am “ceffyl siglo” a blas diniwed o naïfrwydd gydag awgrym o “Tad” ac felly rhyw. Perffaith.
Mabwysiadon nhw y term ar unwaith gan agor eu hymbarél dros athroniaeth anarchaidd newydd.
Richard Hueselnbeck a Hugo Ball oedd y ddau artist a ddechreuodd gyflwyno Dada yng nghlwb nos mwyaf gwyllt Zurich, y Cabaret Voltaire, ynghyd ag Emmy Hennings, Tristan Tzara a band o gyd-artistiaid difreintiedig a oedd yn erbyn rhyfel.
Yn allweddol i fethodoleg Dada oedd y cyfansoddiad a llefaru o maniffestos cymhleth a amlinellodd – yn aml mewn termau annealladwy – daliadau tenau, newidiol a throellog delfryd y Dada.
Buont yn siarad am chwalfa mewn hyder ynglŷn â diwylliant, rhethreg a chyfryngau Ewrop yn ystod dinistr rhyfel. Cyhuddant fod iaith yn cael ei bropagandeiddio – yn dod mwyfwy annibynadwy a llawn perswâd. Cyhoeddon nhw fod arswyd ac anhrefn y byd llawn rhyfel yn symptom uniongyrchol o resymeg a rhesymoledd – diwedd anochel – ac mai dim ond anhrefn o fath arall gallai dawelu’r pandemoniwm. Mewn byd o ddryswch, mynnent y dylai dryswch cael ei gofleidio.
I danseilio, gwatwar a chynhyrfu bourgeois gwenwynig y status quo, gwnaeth Dada y Cabaret Voltaire berfformiadau a chelf yn unol â’r maniffestos hyn. Ysgrifennant a pherfformio “cerddi sain”, yn rhydd o hualau iaith confensiynol ac yn bur yn eu gafael o nonsens, gwnaethant
collage anweddus o bapurau newydd wedi’u torri i fyny, cymerant ffotograffau amhosib, gwisgo mygydau wyneb wedi’u anffurfio’n haniaethol ac achosi cymaint o drafferth stwrllyd â phosib,
gan flaenoriaethu siawns dros dechneg pob tro. Bedlam pur, hygyrchedd pur, celf pur.
Dychan oedd hyn yn sicr, ond yn fwy fyth – rhyddid.
Nid dim ond adeg rhyfel yn Zurich wnaeth y Dada fyw. Roedd apêl eang i’r syniad o gelf gwirion, diystyr ond eto gwleidyddol (lle nad oedd dyn yn beiriant, bellach) a chyn bo hir, gwelwyd Dada ym Merlin ac Efrog Newydd.
O’r Dada ymylol hyn, mae’n debyg mai Marcel Duchamp yw’r enwocaf, byddech mwy na thebyg yn ei adnabod am ei gerflun “Fountain” – troethfa wedi’i arwyddo R. Mutt. Gwnaeth y sioc a’r dicter a grëwyd gan y gwaith hyn wrthwynebiadau gan arddangosfeydd Zurich Dada hyd yn oed. Cafodd Duchamp ei daflu o’r sefydliad celf i mewn i waradwydd.
Dros gan mlynedd yn ddiweddarach, gwelwn eto byd llawn dryswch. Mae propaganda mwy cyffredin a phwerus nag erioed, mae dioddefaint disynnwyr yn cynyddu heb ei wirio, mae ansicrwydd yn gwgu gweledigaeth pawb o’r dyfodol ac mae celfyddydau ar seiliau hynod
greigiog. Dyma’r pridd y mae Dada yn blodeuo ohono.
Nid 1916 yn unig yw Dada. Mae Dada yn NAWR.
Ynglŷn â newCELF
Mae newCELF yn gwmni celfyddydau rhyngddisgyblaethol sy’n cael ei redeg gan Daniel-Wyn Jones a Richard McReynolds. Rydym yn trefnu digwyddiadau celf amlddisgyblaethol sy’n paru gweithiau clasurol modern gyda chomisiynau newydd gan artistiaid o Gymru. Rydym yn cynnwys amrywiaeth o ffurfiau celf i ddangos cysylltedd pob celf ac nad yw creadigrwydd yn gyfyngedig yn ôl genre neu ddosbarthiad. Mae’r dull hwn yn caniatáu croes-beillio syniadau rhwng yr ymarferwyr sy’n ymwneud â’n digwyddiadau sydd wedi arwain at fwy o weithiau a chydweithrediadau newydd. Trwy sgyrsiau addysgol, gweithdai cyfranogol ac arddangos deunyddiau perfformio rydym yn caniatáu i’r gynulleidfa ymgysylltu’n llawn â’r broses greadigol sydd tu ôl celf gwych. Wrth wraidd ein harfer mae cynwysoldeb, tryloywder y broses ac hygyrchedd.
Ynglŷn â Cardiff MADE
Mae Cardiff MADE yn fenter gymdeithasol dan arweiniad artistiaid, sydd wedi bod yn hwyluso cyfleoedd i artistiaid newydd a sefydledig ers 2013. Wrth eu wraidd, mae’n ceisio gweithredu rôl maethu yn eu hardal a thu hwnt; cefnogi a chysylltu artistiaid â’i gilydd, gan ymestyn ffiniau eu hymarfer creadigol. Nod MADE yw tynnu sylw at lwybrau creadigol sy’n addysgu cynulleidfaoedd trwy ddulliau hygyrch a dychmygus wrth roi’r cyfle i artistiaid ddatblygu prosiectau cydweithredol a cynulleidfaoedd newydd.
Diolch i
Alastair Gray, Alys Morgan Pearce, Bibiana Padilla Maltos, Carys Volpe, Dan Gregory, David Jones, Emily Spruce, Ethan Davies, Helen Jones, Iona Hannagan Lewis, Kate Willetts, Lizzie Cox, Marega Palser, Mererid Watson, Osian Grifford, Pali Singh, Rachel Helena Walsh, Rowan Campbell, Sara Treble-Parry Sarah Vaughan Jones, Simeon Davies, TactileBOSCH a WhereI’mComingFrom.
Diolch i’r uchod a llawer mwy y mae eu gwaith caled a’u cefnogaeth yn gwneud prosiectau fel hyn yn bosibl, yn enwedig yn yr amseroedd anodd hyn. Rydyn ni mor ddiolchgar.
Diolch yn arbennig i Will Salter sydd wedi gweithredu fel ymgynghorydd, crëwr ac awdur yr hanesion trwy gydol y prosiect hwn. Heb ei ymdrechion ni fyddai’r prosiect hwn hanner cystal ag y mae.
Yn olaf, diolch i Bobby Vaughan-Jones a gymerodd ein syniadau gwael a chreu gwefan ragorol.
Comisiynwyd y prosiect hwn gan Cardiff MADE a’i gefnogi’n ddiolchgar gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Ty Cerdd.