Dada yw: BARDDONIAETH “CUT-UP”
Mewn rali Dada yn y 1920au, cynigodd Tristan Tzara i greu barddoniaeth trwy dynnu geiriau allan o het. Yn ôl pob sôn, cododd terfysg, a taflwyd Tzara o’r cyfarfod trwy rym heb gyfle i brofi ei hunan. Yn hwyrach, yng nghylchgrawn Dada 391, amlinellodd Tzara y dull radicalaidd hwn o farddoniaeth mewn maniffesto barddonol a sefydlwyd barddoniaeth “Cut-Up” i’r oesoedd.
Dydy testunau Dada ddim yn gwneud synnwyr o gwbl – roedd yr artist wnaeth eu cyfansoddi yn byw mewn byd ble doedd dim yn gwneud synnwyr, ble roedd rhesymeg ond yn gwneud lle i drasiedi. Roedden nhw’n ddibynnol ar hap, y damweiniol a’r difyfyr ar gyfer llawer o’u hymdrechion creadigol. Blaenoriaethwyd proses dros gynnyrch yn y cofleidiad naturiol hwn o anarchiaeth, a daeth creu barddoniaeth Dada yn arfer mewn ffawd yn hytrach na dawn. Cyhoeddodd Tzara bod barddoniaeth i bawb, a byddai Cut-Up wastad yn ymdebygu’i greawdwr – awdur gwreiddiol diddiwedd.
Roedd gan Dada obsesiwn â chyfathrebu torfol ei amser. Daeth unrhyw bapurau newydd neu brint poblogaidd yn adnodd cyfoethog y gellir defnyddio i aflonyddu cymdeithas. Roedd torri penawdau’r dydd gan eu hail osod i greu datganiadau newydd absẃrd, doniol, brwnt, annealladwy yn dychanu’r peiriant propaganda gan bwysleisio iaith arwynebol a llygredig y cyfryngau.
Estyniad o arferion collage a chydosodiadau lluniau y Dada oedd Cut-Ups – troi’r cyfarwydd yn rhyfedd ac ansefydlog i’r hunanfodlonrwydd cyfforddus – sydd wedi ysbrydoli nifer o artistiaid gwych ers ei gyflwyniad. Pregethodd William Burroughs am rhinweddau’r dechneg i’w ddisgyblion, ac mae David Bowie a Thom Yorke wedi cyfansoddi geiriau cân trwy dynnu geiriau o het. Bellach, nid yw’r chwyldroadol – y bardd ar hap – yn cael eu taflu o leoliadau, yn hytrach cawn eu dathlu a’u moliannu am eu dyfeisgarwch a’u creadigrwydd. Byddai Tristan Tzara yn falch.