Collage/Cyfosodiad

Dada yw: COLLAGE

Daeth y Dada o hyd i’r ffurf a’r mynegiant puraf o’u hathroniaeth trwy gollage. Trwy gyfuno arbrofion gyda ffotograffiaeth, toriadau testunol a chyfansoddiadau hap, daeth iaith newydd o ddelweddau bywiog, di-ffurf i’r amlwg – mynegant yr anrhefn gan giplunio’r rhyng-
gysylltedd eang a chymhleth o fewn y byd gweledol cyfoes.

Aeth Kurt Schwitters at y Dada gan ofyn i ymuno a nhw, disgrifiodd ei hun fel y dyn sy’n hoelio’i luniau at ei gilydd, a’i gollage neu “Merz” ef sydd wedi mwynhau’r poblogrwydd hiraf. Ond mewn gwirionedd, gwnaeth y mwyafrif o’r Dada amlwg greu collage neu gyfosodiad llun ar ryw adeg yn eu harfer a gall pob un cael eu hadnabod yn rhwydd trwy gymeriad y gwaith.

Mae cydosodiadau Schwitters, er enghraifft, yn cynnwys cyfuniadau ciwbydd o fapiau a thocynnau; papur losin a chylchgronau; wedi’u tynnu at ei gilydd trwy drefniadau diystyr ond eto’n gytûn ac ambell waith, yn sentimental – yn gwahodd y gwyliwr i osod naratif eu hun i’r celf. Tra gwnaeth cyfosodiadau Hannah Hoch, er enghraifft, gymryd mantais ar gynnyrch cyfryngau torfol i greu dychanau o’r oes a oedd yn fratiog mewn modd creulon, ond eto, a ffocws grâff.

Gwnaeth y gwrthdrawiad rhwng darluniau gwleidyddol, testun dwli a ffurfiadau gweledol haniaethol greu sbardun o’r Dada. P’un a oedd collage yn ysgogi enaid disglair yr arlunydd, yn datgymalu peiriannau rhyfel neu ddychmygu realiti newydd yn ddigymell, heb fwriad ymenyddol, ac wedi’i drochi mewn rhyddid – roedd y newidiadau sylfaenol o symbolau cyfarwydd a rhesymegol mewn i dotem gwrth-gelf yn arloesol a brawychwyd y sefydliad celf.

Ymddengys symudiad tebyg eto, ond y tro hyn, yn nhirwedd ddigidol ein hanrhefn gyfoes, wedi’i ryddhau o gyfyngiadau siswrn a glud caniateir aml ddoniau diderfyn. Llywiodd pobl nihilaidd a gwleidyddol anfodlon esthetig y rhyngrwyd mewn i rywbeth sydd, yn y bôn, yn Dada. Mae’n rhaid bod y diwylliant memes, shitposts a gwiriondeb dibwys yn barhad deallusol o’r hyn wnaeth y Dada gyflwyno.

Cymharwch waith hunangyfeiriol Hausmann, neu ffotograffiaeth ddychanol Hoch, neu fywiogrwydd Arp i’r parêd o ddwli rhwystredig y milflwyddol ar Tumblr neu Instagram ac fe welwch bod Dada yn fyw ac iach.