Mygydau

Dada yw: MYGYDAU

Roedd gwisgoedd yn hollbwysig i Dada y Cabaret Voltaire. Roedd eu Nosweithiau Dada yn fyw a phob math o dyniadau corfforol ac anhrefn lliwgar ond doedd y traddodiad o wisgo mwgwd byth ond yn berfformiad – yn hytrach, roedd yn rhan o’r broses greadigol. Disgrifiodd Hugo Ball sut y byddai gwisgo’r mwgwd yn aml yn ysbrydoli dawnsio a symud digymell o’r Dada. Byddai hyn yna’n gorfodi’r cyfansoddiad o gerddoriaeth a dyfeisio ynganiadau – theatr bale cyfan wedi tyfu o wynebau cardfwrdd.

Mygydau arbennig o boblogaidd a hynod effeithiol i’r Cabaret oedd rhai Marcel Janco. Roedd cymeriadu anferth ac amwys y mygydau yn cael effaith ffyrnig ar y Dada gan ysbrydoli egni gwyllt ac anrhagweladwy i athroniaeth gwrth-gelf y perfformwyr.

Ceisia Dada wrthryfela yn erbyn rhagrith y diwylliant gorllewinol ac felly’n aml gwnaethant ddelweddaeth a defodau y traddodiadau hynafol, a oedd yn eu hatynnu, yn fwy egsotig. Defnyddiwyd mygydau a ysbrydolwyd gan Affrica yn enwedig, a chawson eu gweld fel adnodd i danseilio delfrydau bourgeois cynulleidfaoedd dosbarth canol. Ar y pryd, cyflwynir a thrafodir arferion Affrica o fewn cyd-destun system newydd o hierarchaeth a oedd wedi’i greu gan ymerodrolwyr Ewropeaidd. Gosodwyd hil Gwyn ar gopa’r hierarchaeth hon gan eu cyflwyno fel yr hil fwyaf gwaraidd a datblygedig tra gosodwyd hil Du ar y gwaelod – yn anwaraidd a chyntefig ac felly’r agosaf i anifeiliaid a natur. Trwy gyflwyno arferion Affrica o fewn y cyd-destun hwn, gwelir bod perfformwyr Dada yn ystyried y rhain fwy triw i natur na rhai Ewrop.

Yn anffodus, roedd dathliadau Dada o draddodiadau a chelf di-Ewropeaidd yn rhan o’r cymhlethdod goruchafiaeth rhagrithiol yr oeddent yn proffesu i gynddeiriogi yn erbyn. Roedd eu hatgyfnerthiad cyson o “arall-fod” o ran traddodiadau Affricanaidd a gwneud eilun anweddus o wahaniaethau diwylliannol yn cynnal y status quo o ran gwladychiaeth ac adfeddiad diwylliadol.

Yn awr, wedi nifer o flynyddoedd, mae mygydau fel symbol, yn ennill pŵer ei hunain o fewn cyd-destun gorllewinol. Nid yn unig yn y cyfnod presennol o pandemig ble gwisgwn fygydau i’n hamddiffyn rhag y firws, ond y tuedd a’r arferion trwy gyfryngau cymdeithasol i ddefnyddio hidlau ci, cyweirio wyneb ac esgus bod yn rhywun arall. Gydag echdyniadau’r wyneb trwy hidlau Facebook ac Instagram wedi esblygu’n arferol o fewn diwylliant erbyn hyn, tybed beth fyddai canlyniadau gwyllt ac eang pobl megis Janco wrth ddefnyddio’r dechnoleg hyn i droi wyneb Dada?