Ffotograffiaeth

Dada yw: FFOTOGRAFFIAETH

Doedd ffotograffiaeth dal heb osod ei marc yng nghelfyddyd dechrau’r ugeinfed ganrif. Rhoddodd Dada gartref iddo. Pwnc dadleuol oedd p’un a oedd Dada yn wirioneddol gweld potensial creadigol y cyfrwng neu ond yn ei gofleidio i dynnu’n groes i draddodiadau, ta waeth, daeth ffotograffwyr Dada yn arloeswyr dyfeisgar o’r dechnoleg newydd a hyblyg hon.

Disgrifiodd Man Ray ei ddarganfyddiad o ffotograffiaeth fel y rhyddid olaf rhag cyfrwng gludiog paent ac eglurodd bod yr arfer fel gweithio’n uniongyrchol gyda golau. Gellid defnyddio golau i greu’r amhosib, tra hefyd yn seilio cyfuniad o freuddwydion a realiti – troi’r cyffredin yn rhyfeddol.

Maes brwydr berffaith oedd y cyfarfyddiad radical hyn o’r annisgwyl a’r cyffredin i’r Dada amlygu eu beirniadaeth o ryfel. Doedd delweddau dogfennol syml y Rhyfel Byd Cyntaf ddim yn ddigon – doedd gwerth ffeithiau cadarn prin yn cael perthnasedd i erchylltra – felly adroddir stori onest ac angerddol gan y Dada trwy eu defnydd cymysg o ddelweddau anhrefnus a disynnwyr o fewn ffotograffau a cyfosodiadau ffotograffau.

Datblygodd yr arbrofion ffotograffiaeth cychwynnol hyn yn y blynyddoedd canlynol ac mae’r cyfrwng wedi’i gofleidio gan symudiadau avant-garde dilynol fel arf gwych i danseilio gwerthoedd cadwrol, gan bwysleisio dinistr marwol a harddwch annhebygol byd anhrefnus. Gweithiodd y swrrealyddion yn yr un modd a Dada i dwyllo’r llygaid i freuddwydio, dechreuodd y Neo-Dada wireddi lluniau yn gorfforol fel cerfluniau parod ac wrth gwrs, galluogodd Celf Pop – teyrn y symudiad celf ffotograffiaeth – i ddringo i begwn heb ei ail o sylfaen cadarn y rhai a fu.

Gwelir agwedd y Dada at ffotograffiaeth yn ein bywydau pob dydd. Aiff delweddau hysbysebu mwyfwy nefolaidd a hap, dydy ffotograffiaeth ffasiwn bellach ddim yn dibynnu ar y dillad i ddweud y stori, yn hytrach lleoliad annhebygol y model a ffotograffiaeth cyfryngau cymdeithasol sy’n amlwg yn swrrealaidd a rhyfedd.

Caiff darluniau hynod strwythuredig, cysyniadol a hollol od ei ffrydio yn ddi-baid o declynnau ffon. Byddai defnydd Man Ray o Snapchat werth ei weld!